Mae Hywel Pitts yn gerddor digrif, neu’n ddigrifwr cerddorol. Pan gychwynnodd lawr y llwybr hwn, roedd o’n gobeithio bysa’r cyfuniad unigryw yn gwneud o’n hawdd i’w farchnata, ond yr oll mae o wedi llwyddo i’w wneud ydy creu niche rili penodol i’w hun a’i hun yn unig.
Mae o’n sgwennu, perfformio, a chyflwyno. Mae o’n wyneb cyfarwydd ar S4C, yn adlonni Cymru gyda’r grŵp cabaret llwyddiannus Cabarela, ac mae ei sioe gerdd Croeso i Baradwys yn profi bod o’n gallu g’neud mwy na jôcs coch pan bod angen.